Mae Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) yn dwyn ynghyd prif enwadau Cristnogol Cymru, a nifer o fudiadau Cristnogol eraill, i gyd-weithio ar faterion sydd o ddiddordeb iddynt oll. Mae gan yr 17 aelod enwad ryw 165,000 o oedolion sy’n aelodau ymhob cymuned ar draws Cymru, a chyswllt rheolaidd â llawer mwy o oedolion, plant a phobl ifainc. Gellir gweld rhestr lawn o’r holl enwadau a mudiadau sy’n aelodau yn: http://www.cytun.cymru/ni.html  

 

Ffurfiwyd Gweithgor Cymru ac Ewrop yn dilyn refferendwm Mehefin 2016 er galluogi’r eglwysi i gyd-weithio wrth ymateb i’r canlyniad a’r newidiadau sylweddol ym mywyd y genedl a ddaw yn ei sgîl. Mae i bob aelod enwad yn Cytûn ran yng ngwaith y Gweithgor. Gellir gweld yr adnoddau a gyhoeddwyd gan y Gweithgor yn: www.cytun.cymru/cymruewrop  

 

Byddem yn croesawu cyfleoedd pellach i ymwneud â gwaith y Pwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at: Parch. Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn, yn gethin@cytun.cymru. Gellir cyhoeddi’r ymateb hwn yn llawn.

 

1.  Beth yw'r prif faterion sy'n wynebu eich sector o ganlyniad i’r ffaith fod y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a sut y dylai Llywodraeth Cymru ymateb i'r rhain?

 

1.1                Mae’n debyg mai’r mater sy’n pwyso mwyaf ar eglwysi Cristnogol Cymru yw’r ansicrwydd sy’n wynebu aelodau ein cynulleidfaoedd sy’n ddinasyddion yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, ac sy’n byw yn gyfreithlon yng Nghymru oherwydd y ddinasyddiaeth honno. Ers yn union ar ôl y refferendwm, fe fu Cytûn a’n haelod eglwysi yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddiogelu sefyllfa’r dinasyddion hyn yng nghyfraith y DU. Rydym yn ddiolchgar am ddatganiadau Llywodraethau’r DU a Chymru yn sicrhau’r bobl hyn bod croeso iddynt yma o hyd, ond byddem yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatrys y materion hyn yn derfynol. Rydym yn gofidio am unrhyw gynigion ar gyfer ‘settled status’ i ddinasyddion yr UE allai ddibynnu ar eu statws economaidd, e.e. bod ganddynt waith neu eu bod yn gallu cynnal eu hunain heb fynd ar ofyn y wladwriaeth. Credwn y dylai dinasyddion sydd yma eisoes a’u dibynyddion – gan gynnwys y rhai allai ddod yn ddibynnol arnynt yn y dyfodol (e.e. rhieni oedrannus yng ngwledydd eraill yr UE) gael sicrwydd y bydd ganddynt hawl i fyw yma yn gyfreithlon a chael mynediad i ofal iechyd, gofal cymdeithasol a budd-daliadau.

 

1.2                Er bod eglwysi Cristnogol yn llai dibynnol na llawer rhan arall o’r trydydd sector ar arian cyhoeddus, rydym yn gofidio ar ein rhan ein hunain ac ar ran y gymdeithas ehangach ynghylch yr ansicrwydd parthed dyfodol ariannu allanol ar gyfer cynlluniau allai fod o fudd i’n cymdeithas. Mae colli cronfeydd strwythurol yr UE o ofid arbennig yng Nghymru, gan fod yr ansicrwydd yn peryglu ystod o gynlluniau sy’n amrywio o grantiau bach iawn i grwpiau cymunedol i gynlluniau seilwaith mawr a chynlluniau sy’n cefnogi cyflogadwyedd pobl ddi-waith a phobl economaidd segur. Rydym yn gofidio’n arbennig am:

 

·         Awgrymiadau y bydd y gronfa arfaethedig ‘UK Shared Prosperity Fund’ yn cael ei dyrannu gan Lywodraeth y DU yn unig, ac y gellid cyfyngu ar neu dynnu rôl bresennol Llywodraeth Cymru o ran dosbarthu cronfeydd yr UE. Byddem am weld Llywodraeth Cymru yn pwyso i egwyddor sybsidiaredd barhau i gael ei weithredu o ran dosbarthu unrhyw ariannu o’r fath a ddaw o’r DU. 

·         Awgrymiadau y gellid cyflwyno fformiwla ar gyfer dosbarthu’r SPF ar draws y DU nad yw’n seiliedig ar angen yn unig, ond sy’n anelu at ddosbarthu’r cronfeydd hyn yn fwy eang trwy ddefnyddio fformiwla seiliedig yn rhannol ar faint y boblogaeth. Mae’n anochel y byddai hyn yn lleihau’n sylweddol yr ariannu a fyddai ar gael i ardal Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

·         Gwanhau neu ddileu y seiliau cymdeithasol, yn hytrach nag economaidd, ar gyfer dosbarthu cyllid, fel a geir yn achos Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar hyn o bryd. Tra ein bod yn cefnogi cyllido ar gyfer adfywio economaidd, credwn fel eglwysi Cristnogol y dylid mynd i’r afael ag achosion cymdeithasol hirdymor difreintedd economaidd – megis anabledd a salwch hirdymor, dibyniaeth, troseddu – trwy gyfrwng rhannu cyfoeth y DU. Mae hyn yn fater o’r pwys mwyaf i Gymru gan fod Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn 2014-20, o ran y cronfeydd a ddyrannwyd erbyn Ebrill 2016, yn gwario £101.53 y pen yn ardal Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, mwy na dwywaith y raddfa mewn unrhyw ran arall o’r DU.[1]

 

1.3                Mae ein heglwysi a’n caplaniaid sy’n gwasanaethu’r gymuned wledig yn parhau i ddweud fod yna bryder ac ansicrwydd dwys yn y gymuned amaethyddol a’r sawl sy’n economaidd ddibynnol arni ynghylch dyfodol taliadau amaethyddol. Yr ofnau a fynegir gan aelodau eglwysi cefn gwlad yw y bydd cymunedau gwledig yn wynebu poblogaeth sy’n heneiddio’n gynt na gweddill y wlad, gwasanaethau iechyd anghynaladwy, pobl ifainc yn symud i’r trefi am waith a darnio’r ffordd o fyw gan achosi difrod difrifol i’r iaith Gymraeg. Credwn y dylid felly targedu unrhyw drefn newydd o gefnogaeth ariannol ar gynnal amaethyddiaeth fel un o ddiwydiannau cynhyrchu prin Cymru. Rydym yn ymwybodol fod yr ansicrwydd presennol ynghylch a fydd y materion hyn yn cael eu penderfynu ar lefel y DU neu Gymru yn achosi anhawster i Lywodraeth Cymru, ond byddem yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau priodol ar y sail y bydd angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru wneud penderfyniadau allweddol.

 

2.  Pa gyngor, cefnogaeth neu gymorth yr ydych wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn wrth baratoi ar gyfer Brexit?

 

Nid ydym yn ymwybodol ein bod wedi derbyn unrhyw gyngor penodol. Rydym yn deall fod awdurdodau lleol sy’n ariannu rhai o’n cynlluniau cymunedol lleol wedi bod yn trafod cynllunio ar gyfer trefniadau cyllido i’r dyfodol, a bod gwaith wedi’i wneud i dynnu sylw Llywodraeth y DU at yr anghenion cyllido fydd yn parhau wedi i ni ymadael â’r UE. Ond, hyd y gwyddom, nid yw hynny wedi esgor ar ymateb gan Lywodraeth y DU hyd yma.

 

3.  Pa ystyriaethau ariannol sydd wedi codi o ganlyniad i’r ffaith fod y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a beth ddylid ei wneud i baratoi ar gyfer y rhain?

 

Gweler para 1.2 uchod.

 

4.  Pa gyngor neu gefnogaeth yr hoffech ei weld gan Lywodraeth Cymru a fydd yn eich helpu chi a'ch sector i baratoi ar gyfer Brexit?

Rydym yn ymwybodol mai’r anhawster sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yn yr amgylchiadau hyn yw’r anhawster sy’n wynebu’r DU gyfan, sef ei bod hi’n anodd iawn paratoi ar gyfer yr hyn na wyddom. Rydym yn ymwybodol o’r ymdrechion a wneir drwy’r JMC (EN) ac mewn ffyrdd eraill i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ffurfioli ei safbwyntiau a bwrw ymlaen â’r trafodaethau.

 

Rydym yn ymwybodol hefyd o’r trafodaethau yn siambr y Senedd fod unrhyw drafod am baratoadau i ymadael â’r UE yn parhau i fod yn hynod ddadleuol yn wleidyddol, ac i lawer o’r trafod fethu â symud ymlaen o’r dadleuon a ddefnyddiwyd gan y naill ochr a’r llall yn refferendwm Mehefin 2016. Tra ein bod yn gwerthfawrogi’r anawsterau sy’n wyneb pawb mewn safleoedd gwleidyddol ar hyn o bryd, byddem yn pwyso ar i bob ymdrech gael ei wneud i geisio consensws traws-bleidiol ac, yn bwysicach yn yr achos yma, consensws rhwng y sawl a ymgyrchodd i Adael a’r sawl a fu’n ymgyrchu i Aros, fel y gellir cynnig arweiniad unedig i’r cyhoedd ac i Lywodraeth y DU o leiaf am rai materion allweddol (megis mater dinasyddion yr UE, gweler 1.1 uchod).

 

Rydym yn bwriadu trefnu rhai cyfarfodydd cyhoeddus yn ystod 2018 mewn gwahanol rannau o Gymru i weld a allwn ni fel eglwysi gyfrannu at drafodaeth gyhoeddus fwy adeiladol a chymodlon.

 



[1] http://policyinpractice.co.uk/brexit-whats-next-esf-local-authorities/